
![]() |
![]() |
||
Hydref 2024
Annwyl Delyth,
Cyfarfod y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
Deallaf fod gan aelodau eich Pwyllgor ddiddordeb mewn dod i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ar 13 Rhagfyr, gan fod Cymru a’r Byd yn bwnc perthnasol i’r elfen Cysylltiadau Rhyngwladol yn eich cylch gwaith.
Rwy’n hapus i estyn gwahoddiad i holl aelodau’r Pwyllgor fod yn bresennol fel gwesteion na fydd yn cyfrannu, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau drwy’r swyddogion pwy fydd yn dod. Caiff y cyfarfod ei gynnal yn Ystafell Bwyllgora 5 ac ar Zoom, a bydd yn dechrau am 10.00.
Mae croeso i chi hefyd ddod i rag-gyfarfod y Pwyllgor am 15.00 ar 22 Tachwedd ar Teams, fel y gallwch gyfrannu at feysydd trafod posibl.
Yn gywir,
David Rees AS
Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.